Mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cefnogi Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru, gan rannu ei arbenigedd mewn amrywiaeth o weithgareddau addysgiadol sy'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth.
Mae Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru, sy’n cael ei chynnal rhwng 9 a 13 Tachwedd 2026, yn dod â sefydliadau a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru ynghyd i ystyried ymwybyddiaeth o ddiogelu, dysgu ac arferion.
Mae gwiriadau DBS yn un rhan o gyfraniad DBS at ddiogelu. Yn dibynnu ar rôl, sefydliad ac amgylchiadau gweithiwr proffesiynol, gall agweddau eraill sy’n ymwneud â DBS fod yn berthnasol hefyd, gan gynnwys cymhwysedd ar gyfer gwiriadau, gweithgareddau wedi’u rheoleiddio, cyfrifoldebau atgyfeirio, a gwahardd.
Yn ystod Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru, bydd DBS yn cyfrannu arbenigedd ar y pynciau hyn at weithgareddau a drefnir gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol ledled Cymru.
Mae Byrddau Diogelu Rhanbarthol ledled Cymru yn trefnu rhaglenni o weithgareddau a sesiynau dysgu trwy gydol yr wythnos.
